Social Media 1:1 Strategy and Support

Sesiynau Cynnwys Cymdeithasol 1:1

Be mae’n ei olygu

(a Sut Dw i’n ei Wneud o)

Yn amlach na pheidio, rydym ni’n gwneud yn well nag ydym yn meddwl gyda’n cyfryngau cymdeithasol. Ond mae amau ni’n hunain, cymharu’n hunain ag eraill, cael pryderon mewnol, yn gwneud i ni rewi.

Pam? Oherwydd bod y cyfryngau cymdeithasol, yn enwedig Instagram, fel ceisio hoelio jeli ar wal – pan wyt ti’n meddwl dy fod wedi llwyddo, mae’n llithro eto.

Os nad oes gen ti gefnogaeth arbenigol, neu os nad wyt ti erioed wedi mynychu gweithdy cyfryngau cymdeithasol tra bod faint o bobl sy’n gweld dy bostiadau di dal ar 200 ac mae Instagram yn teimlo’n ddryslyd (eto), dyma sy’n digwydd. Yn hytrach na chanolbwyntio ar strategaeth gadarn, mewn panig bach ti’n neidio ar y trend diweddaraf, neu syniad rywun arall – yn hytrach nag ymddiried ynddo ti dy hun a dilyn cynllun sy’n cyflawni amcanion dy fusnes ar y cyfryngau.

Dw i’n hoffi meddwl am dy gynnwys cymdeithasol yn bod yr un mor reddfol â chariad Beanz at bobl dda...

Pan wyt ti’n hyderus yn dy strategaeth a dy negeseuon, alli di ddod o hyd i bostiadau a phynciau difyr a gwybod y byddant yn gweithio i ti. Bydd syniadau gwych yn dod i dy feddwl yn naturiol, ar yr adegau mwyaf annisgwyl!

Ynghyd â strategaeth sy’n gweithio i ti, cei di anogaeth a llwyth o hyder.

Rydw i yma fel y pâr o lygaid arbenigol yn edrych dros dy ysgwydd – gan gynnig yr arweiniad rwyt ti ei angen i ymddiried yn dy hun, magu hyder a llwyddo ar y cyfryngau cymdeithasol.

Dw i’n addo, alli di fagu ymddiriedaeth, mojo i dy fusnes, a chael mwy o werthiant ar ôl dim ond 30 munud gyda fi.

beanz
121 social media audit

Dyma be gei di gydag Archwiliad 1:1

check-pink

Archwiliad llawn o dy gyfryngau cymdeithasol cyfredol

check-pink

Galwad ffôn gweithredol 30 munud

check-pink

30 minute implementation call

check-pink

Sgwrs ddilynol

check-pink

Anadlu allan y pwysau nad oeddet ti’n sylwi dy fod di’n ei gadw i mewn. Be sy’n setlo yn ei le? Gorffwys – a’r teimlad (da) o foddhad dy fod wedi cyflawni rhywbeth.

Trawsnewidia dy gyfryngau cymdeithasol am £300

121 social media coaching

Dyma be gei di gyda Sesiwn Strategaeth 1:1

check-pink

Dadansoddiad er mwyn datgymalu lle rwyt ti’n sownd

check-pink

Ychydig o waith cartref (i fi!) — mi wna i’r gwaith cartref fel nad oes rhaid i ti…

check-pink

Galwad 60 munud i ddatrys problemau!

check-pink

Sgwrs ddilynol

check-pink

Gwna dy gyfryngau cymdeithasol yn bosib, heb bostio bob dydd, treulio oriau yn golygu ar Instagram neu’n sgrolio’n ddiddiwedd am syniadau.

Gad i ni symleiddio dy strategaeth am £300

Ffansi gwneud ein dêts yn rhai misol?

Bwndela ein sesiynau 1:1

Os wyt ti ar goll, ond methu fforddio allanoli creu cynnwys, cefnogaeth barhaus yw’r datrysiad perffaith. Byddi di’n cael sesiynau cymdeithasol ymarferol rheolaidd, i deimlo’n fwy hyderus ac i wella dy bresenoldeb ar y cyfryngau cymdeithasol.

*Bonws* byddi hefyd yn cael syniadau cynnwys misol yn ogystal ag adborth ar dy bostiadau.

Ar ôl un sesiwn, byddi di’n creu cynnwys mwy eglur a mwy pwrpasol sy’n hyrwyddo cynulleidfa ehangach, yn ennyn ymddiriedaeth, ac yn tyfu incwm.

Dim mwy o waith dyfalu. Jyst canlyniadau go iawn.

Purple Dog - February 2025

"Roedd arbenigedd Becky ar sail 1:1 yn amhrisiadwy!"

El Edwards

“Cefais i’r fraint o fynychu fy nhrydydd hyfforddiant cyfryngau cymdeithasol wedi’i arwain gan Becky ac, unwaith eto, mi oedd yn wych ac yn weithredol.

Bellach, mae gen i well gafael ar y platfform ac fel y galla i weithredu ar y syniadau go iawn.

Fi hefyd wedi cael y budd o arbenigedd Becky ar sail 1:1 ac roedd yn amhrisiadwy! Os cewch chi’r cyfle i gydweithio gyda Becky, ewch amdani. Wnewch chi ddim difaru!”

El Edwards
Antioch Centre

FAQs

Whether you’re eyeing up a 1:1 strategy session or considering a full social media audit, these are the questions I get asked the most. If you’re still unsure after reading, just pop me a message — no silly questions here, promise.

Have more questions?  Get in touch before you book.