I’ve got four ways to work together
Lle rwyt ti’n teimlo fel dy fod yn cael dy weld, dy glywed a dy ddeall.


Rhoi Trefn ar dy Gynnwys Cyfryngau Cymdeithasol
Dewch i ni helpu dy fusnes i edrych cystal ar gyfryngau cymdeithasol ag y mae mewn person

Creu Cynnwys
Cynnwys wedi cael ei wneud i ti, fel y medri anadlu ac adennill amser i weithio ar wneud i dy fusnes serennu
From £500 pm

Strategaeth neu Archwiliad Cymdeithasol 1:1
Trefna archwiliad neu sesiwn strategaeth 1:1 penodol (yn ymwneud â chreu reels drafft, gwaith graffig ar Canva, neu system cynllunio cynnwys)
Gwna dy sesiwn 1:1 yn ddigwyddiad misol ac archeba fwndel ‘symleiddio’r cyfryngau cymdeithasol’
Dechrau arni am £300

Hyfforddiant a Gweithdai Cymdeithasol
Trefna fi i redeg gweithdy neu ymuna â gweithdy yma. Bydd yn rhoi arbenigedd cyfryngau cymdeithasol cynnes, hyddysg sy’n trefnu, strategaethu a chyflawni symlrwydd ar dy gyfryngau cymdeithasol
Unleashed Content Club

Y cyfryngau cymdeithasol yw un o’r sianeli marchnata (am ddim) mwyaf effeithiol sydd ar gael.
Pam cael dy adael ar ôl?
Symlrwydd a deilliannau mesuradwy sy’n bwysig.



’Os wyt ti wedi gofyn i ChatGPT sut i “guro’r algorithm”, rwyt ti’n y lle iawn.
Achos wnaeth o ddim gweithio, naddo?
Rwyt ti wedi ceisio bod yn bresennol ar-lein – yn postio, rhannu a gwneud y pethau iawn i gyd.
Ond rhwng y botymau’n symud o gwmpas, yr algorithm oriog, cyngor gan wahanol “ddewiniaid” sy’n gwrthddweud ei gilydd, nid yw dy bostiadau cymdeithasol yn cyrraedd pobl. Ac i fod yn onest? Rwyt ti’n rhwystredig. A digon teg.
Rwyt ti’n teimlo fel dy fod yn gwneud rhywbeth o’i le a galli di ddim gweld sut mae pobl eraill yn cael pethau mor gywir, pan rwyt ti’n cerdded drwy driog.
Mae’n wirionedd sy’n anodd ei glywed. OND.
Buaswn i’n ddi-waith pe na bai’n bosib helpu tyfu dy gyfryngau cymdeithasol. Felly, os nad yw strategaeth hudol yn gweithio, be sydd?!

Mi ddyweda i wrthyt ti.
Let me help you piece the details together with in-house training or at one of my in-person workshops.
Get structured monthly support, practical resources, and guidance you can actually use inside the Unleashed Content Club
Neu trefna Sesiwn Strategaeth ac 1:1 ac mi ddyweda i wrthyt ti be sy’n mynd o’i le, a sut i gael pethau’n iawn!
Y Broses Cyfryngau Cymdeithasol 1:1
Dilyna’r ddolen isod a threfnu sesiwn 1:1 ar fy nghalendr
Gwna’r taliad i gadarnhau’r dyddiad.
You’ll receive a confirmation email after filling out the questionnaire.

Archwiliad 1:1
Bydda i’n cymryd golwg fanwl ar dy gyfrifon cyfryngau cymdeithasol.
Bydda i’n anfon ymateb cynhwysfawr, yn barod am dy sesiwn rithiol 1:1 sydd wedi’i drefnu.
Gyda’n gilydd byddwn yn dadansoddi dy gyfryngau cymdeithasol ac yn gweithredu newidiadau ar unwaith er mwyn cwrdd â dy nodau ac amcanion.
Bydda i’n dal i fyny gyda thi ymhen pythefnos i weld sut mae pethau’n mynd!
Sesiwn Hyfforddi Strategol 1:1
Bydda i’n adolygu dy holiadur ac yn paratoi fel y gallwn ddechrau arni ar unwaith.
Byddwn ni’n neidio ar dy alwad hyfforddi 1:1 ar-lein ac yn datrys problemau wrth i ni fynd.
Byddi di’n gadael gyda dull cynaliadwy, syml o reoli dy gyfryngau cymdeithasol.
Bydda i’n dal i fyny gyda thi ymhen pythefnos i weld sut mae pethau’n mynd!
Tynna’r gwaith dyfalu allan o greu cynnwys.
365 Syniad Postio Hawdd i Unrhyw Fusnes eu Defnyddio Drosodd a Throsodd
Dim mwy o or-ddadansoddi neu or-feddwl. Rho’r rhestr yma wedi’i argraffu ar dy ddesg, Pwyntio, Sgwennu a Phostio! Gall ysgrifennu cynnwys fod mor syml â hynny.
Have this list printed on your desk, Point, Write and Go!
Content really can be that simple.














